15 Gorffennaf 2015
Annwyl Syr/Madam
Ymgynghori ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar wefan y Cynulliad yn:
http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12989
Gellir gweld cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn Atodiad 1.
Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad
Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â buddiant yn y pwnc hwn.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cyllid
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 8 Medi 2015. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau a hoffai gyfrannu i’r ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu gwybodaeth
Mae gan y Cynulliad bolisi ynghylch datgelu gwybodaeth. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc (Leanne Hatcher 0300 200 6343).
Yn gywir,
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd